Finance Committee

Y Pwyllgor Cyllid

 

 

 

 

 

 

I’r ymgyngoreion ar y rhestr amgaeedig

 

 

 

 

 Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

29 Gorffennaf 2011

Annwyl gyfeillion,

 

Galwad am wybodaeth – Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13

 

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn galw am wybodaeth i gynorthwyo pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda’r gwaith o graffu ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13. Rydym am glywed beth yw eich disgwyliadau ynghylch cyllideb 2012-13 ac unrhyw bryderon sydd gennych mewn perthynas â dyraniadau cyllidol mewn meysydd penodol. 

Nid ydym yn gwybod beth fydd cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 ar hyn o bryd, oherwydd ni fydd y cyngion yn cael eu cyhoeddi hyd nes 4 Hydref eleni. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y byddant yn cael eu cyhoeddi yn ystod cyfnod o wasgedd ariannol neilltuol ar y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae gennym y ffigurau dangosol a ddarparwyd yng nghyllideb atodol diweddar Llywodraeth bresennol Cymru.[1]

Rydym wedi nodi pum cwestiwn yn y papur hwn. Gallwch ateb pob un/rhai o’r cwestiynau hyn, neu roi nodi’n fras eich pryderon a’ch disgwyliadau o’r gyllideb ddrafft.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol yn cael eu hystyried yn fanwl. Bydd pob pwyllgor yn cynnal sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r agweddau ar y gyllideb sy’n dod o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal i hyrwyddo gwaith y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Cynulliad. Os yw’r wybodaeth rydych yn ei darparu yn berthnasol ar gyfer un maes arbennig, byddwn yn trosglwyddo’r wybodaeth honno at y pwyllgor(au) perthnasol i’w defnyddio wrth graffu ar dystiolaeth gan Weinidogion unigol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y pwyllgorau hyn, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol am y Pwyllgor Cyllid, beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a sut y gallwch gael mynediad at ffigurau dangosol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 yn atodiad 1.

 

Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor

 

Hoffem wahodd unigolion a grwpiau sydd â diddordeb mewn gwneud cyfraniad i anfon tystiolaeth ysgrifenedig at Glerc y Pwyllgor Cyllid yn y cyfeiriad uchod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener 16 Medi 2011. Os ydych yn dymuno cyfrannu, ond yn pryderu na fyddwch yn gallu gwneud hynny cyn y dyddiad cau, gallwch siarad â Chlerc y pwyllgor ar 029 2089 8597.

 

Os yn bosibl, anfonwch fersiwn electronig o’ch tystiolaeth, naill ai ar ffurf dogfen MS Word neu destun cyfoethog, drwy e-bost at Finance.Comm@cymru.gov.uk

 erbyn dydd Gwener 16 Medi 2011.

 

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi ychydig o wybodaeth am eich hun neu’ch sefydliad ar ddechrau eich cyfraniad, cyn amlinellu eich barn a’ch profiad mewn perthynas â rhai o’r meysydd a ganlyn, neu pob un ohonynt:

 

Y wybodaeth yr hoffwn ei chael gennych: cwestiynau’r ymgynghoriad

  1. O edrych ar y dyrianiadau cyllidebol dangosol ar gyfer 2012-13, a oes gennych unrhyw bryderon o safbwynt strategol a chyffredinol?
  2. O edrych ar y dyraniadau cyllidebol dangosol ar gyfer 2012-13, a oes gennych unrhyw bryderon am agweddau penodol arnynt?
  3. Pa ddisgwyliadau sydd gennych am y cynigion cyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13? Pa ymrwymiadau gwariant a blaenoriaethau yr hoffech eu gweld yng nghynigion y gyllideb ddrafft at gyfer 2012-13?
  4. Nid yw Llywodraeth newydd Cymru wedi cyhoeddi rhaglen lywodraethu eto. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio ei bod yn ceisio dilyn trywydd sy’n seiliedig ar ganlyniadau, gyda’r Prif Weinidog yn datgan: “delivery will be the watchword of the next Welsh Labour government."[2] Pa ganlyniadau—os o gwbl—dylai Llywodraeth Cymru geisio eu cyflawni drwy ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13?
  5. A allwch awgrymu unrhyw elfennau a ddylai gael eu cynnwys yng nghynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13 i gynorthwyo cydweithio mwy effeithiol?

Mae’r pwyllgor wedi gwahodd cyfraniadau gan y rhai sydd ar y rhestr amgaeedig (Atodiad 2). Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau yr ydych yn credu y byddai’n dymuno cyfrannu at ein gwaith. Mae copi o’r llythyr hwn ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Dylai tystion fod yn ymwybodol bod unrhyw dystiolaeth sy’n cael ei gyflwyno i’r pwyllgor yn cael ei drin fel eiddo’r pwyllgor hwnww. Bwriad y pwyllgor yw cyhoeddi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, a gall y papurau hyn hefyd gael eu printio yn adroddiad y pwyllgor. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi unrhwy wybodaeth y mae’n tybio i fod yn wybodaeth bersonol.

 

Fodd bynnag, os byddwn yn cael cais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd yn ofynol i ni ddatgelu’r wybodaeth rydych yn ei darparu. Bydd hyn o bosibl yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi cael ei chadw’n ôl gan y Cynulliad Cenedlaethol rhag iddi gael ei chyhoeddi.

 

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, heblaw gwybodaeth bersonol, sydd yn eich barn chi yn anaddas ar gyfer cael ei datgelu i’r cyhoedd, neu os nad ydych yn dymuno i’ch enw, fel awdur y dystiolaeth, gael ei ddatgelu, rhaid nodi hyn yn glir. Eich cyfrifoldeb chi fydd nodi pa rannau o’r dystiolaeth na ddylent gael eu cyhoeddi, a darparu rhesymau dilys dros wneud hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid a’i galwad am wybodaeth yn: www.cynulliadcymru.org

 

Yn gywir

Jocelyn Davies AC

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

 


Atodiad 1- Gwybodaeth gefndirol

 

Pwy ydym ni?

Pwyllgor trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r Pwyllgor Cyllid, sy’n cynnwys Aelodau o’r bedair plaid wleidyddol sy’n cael ei chynrychioli yn y Cynulliad.

Nid yw’r pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae’r pwyllgor yn gyfrifol am adrodd yn ôl ar gynigion a osodir gerbron y Cynulliad gan Weinidiogion Cymru mewn perthynas â defnyddio adnoddau.

Pa bwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb?

Y pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb yw:

 

Beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?

 

Rhaid i gynigion y gyllideb ddrafft gynnwys manylion ynghylch faint o adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol a ffigurau dangosiadol ar gyfer y ddwy flynedd ariannol ar ôl hynny. Yn fwy penodol, dylai’r cynigion amlinellu:

 

·         yr adnoddau sy’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Archwilydd Cyffredinol a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus;

                                                 

·         yr incwm i’w gadw gan y sefydliadau hynny (yn hytrach na chael ei ildio i Gronfa Gyfunol Cymru);

 

·         yr arian parod sydd i’w dynnu’n ôl o Gronfa Cyfunol Cymru gan y sefydliadau hynny.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dogfen naratif sy’n esbonio ymhellach y dyraniadau manwl i adrannau’r Llywodraeth, yn ogysal â chronfeydd wrthgefn a dyraniadau cyffredinol eraill.

 

 

 

 

 

 

Pam nad ydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ôl i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi?

Ni fydd ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn eithrio rhanddeiliaid rhag ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth a materion eraill i graffu arnynt â Phwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na mynegi unrhyw bryderon, ar ôli gynigion y gyllideb ddrafft gael eu cyhoeddi (ar 4 Hydref).

Fodd bynnag, bydd pwyllgorau fel arfer yn dechrau ar y gwaith o graffu ar dystiolaeth gan Weinidogion y Llywodraeth ar gynnwys y gyllideb ddrafft wythnos neu bythefnos ar ôl i’r gyllideb gael ei chyhoeddi, gyda’r bwriad o gyflwyno eu casgliadau i’r Pwyllgor Cyllid ddiwedd mis Hydref. Mae’n ofynnol i’r Pwyllgor Cyllid adrodd yn ôl ar y gyllideb ddrafft erbyn 8 Tachwedd.

Golyga hyn fod yr amser sydd ar gael i randdeiliaid leisio eu pryderon i’r pwyllgorau fel arfer yn gyfyngedig iawn (wythnos neu bythefnos). Wrth ymgynghori yn awr, gobeithiwn y bydd gan randdeiliaid mwy o amser i ystyried effaith posibl y gyllideb.

Beth yw’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2012-13?

Yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai eleni, gosododd Llywodraeth newydd Cymru gyllideb atodol, a dywedodd y Gweinidog Cyllid:

The main purpose of the supplementary budget is to align the 2011-12 budget structures with changes to the Welsh Government ministerial portfolios announced by the First Minister in May.… [and to] enable us to be strategic in the delivery of our programme of government.”[3]

Mae’r gyllideb atodol ar gael yn:  http://wales.gov.uk/about/budget/supbudgetjune2011/?skip=1&lang=cy

 

Mae’r dudalen hon yn cynnys linc i gynnig cyllideb ddrafft ar gyfer 2011-12, nodyn esboniadol ar y gyllideb atodol a dyraniadau’r prif grwpiau gwariant yn y gyllideb atodol (sydd hefyd yn cynnwys dyraniadau dangosol ar gyfer 2012-13).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Atodiad 2

 

Rhestr o ymgyngoreion

 

Abertawe Bro Morgannwg University Health Board

Action for Children

ADEW

Age Cymru

All Wales Ethnic Minority Association

Aneurin Bevan Health Board

Anti Poverty Network Cyrmu

Arts Council of Wales

Asian Women's Group

Association of Directors for Social Services Cymru

ATL Cymru

Bangladeshi Welfare Association

Barnardos Cymru

Betsi Cadwaladr University Health Board

Bevan Foundation

Big Lottery Fund - Wales

Black Association of Women Stepping Out

Black Environment Network

Black Voluntary Sector Network Wales

Board of Community Health Councils in Wales

British Association of Social Workers Cymru

British Dental Association

British Medical Association

British Orthodontic Society

British Red Cross

Business in Focus

CAFCASS Cymru

Capital Region Tourism

Carbon Trust Wales

Cardiff & Vale University Health Board

Careers Wales

Carers Wales

CBI Wales

Chartered Institute of Management Accountants

Children in Wales

Children’s Commissioner for Wales

Chwarae Teg

Citizens Advice Bureau - Cymru

Clybiau Plant Cymru Kids Clubs

College of Occupational Therapists

Community Pharmacy Wales

Confederation of Passenger Transport

Construction Skills

Consumer Focus Wales

Contact a Family Wales

Country Land and Business Association (CLA)

Countryside Council for Wales (CCW)

Crossroads Care Wales

Cskills

CSSIW

Cwm Taf Health Board

Cymorth Cymru

Cymru Yfory

Deaf Association Wales

Disability Wales

Disabled Children Matter

DTA Wales

Energy Saving Trust Wales

Environment Agency Wales

Equality & Human Rights Commission in Wales

Estyn

European Commission

Farmers’ Union of Wales (FUW)

Forestry Commission Wales

Freight Transport Association

FSB Cymru

Funky Dragon

General Dental Council

General Medical Council

GMB Union

Governors Wales

Grayling

Hafal

HEFCW

Higher Education Wales

Hywel Dda Health Board

Joint Council for the Welfare of Immigrants

MEWN Cymru

Money Advice Service

Mother's Union in Wales

NAHT

NASUWT

National Farmers’ Union Cymru (NFU)

National Offender Management Service

National Parks

Neonatal Nurses Association

Network Rail

North Wales Race Equality Network

NSPCC Cymru

NUS Wales

NUT Cymru

Older People’s Commissioner for Wales

Pakistan Association of Newport & Gwent Welsh Asian Council

Passenger Focus Wales

Play Wales

Powys Teaching Health Board

Public Health Wales NHS Trust

Race Equality First

Refugee Voice Wales

RICS

Royal British Legion

Royal College of General Practitioners

Royal College of Midwives

Royal College of Nursing

RSC

Samaritans

Save the Children Cymru

Sustrans

Talking2Minds

The National Autism Society Cymru

The Prince's Trust - Cymru

Tros Gynnal

TUC

UCAC

UCU

UNISON Wales

Unite Union

Velindre NHS Trust

Voice Cymru

Voices from Care

Wales Environment Link

WCVA

Welsh Ambulance Services NHS Trust

Welsh Women’s Aid

WLGA

 

 



[1] http://wales.gov.uk/about/budget/supbudgetjune2011/?skip=1&lang=cy

[2] BBC Cymru, Ed Miliband yn annog Llafur Cymru i bleidleisio yn erbyn ‘dogma,’ 19 Chwefror 2011, ar gael yn http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-12512344

[3] Y Cofnod, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Pwyllgor Cyllid, 28 Mehefin 2011, Para 5-6